Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl): Cyngor Caerdydd

Dyddiad yr Adroddiad

14/11/2023

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304693

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Caerdydd

Cwynodd Mr N fod y Cyngor wedi cymryd 20 mis i ddatrys problem ag arogl afiach yn ei fflat. Rhesymau’r Cyngor dros yr oedi oedd am fod angen iddo gael mynediad i fflat gyfagos. Dywedodd Mr N fod y fflat yn wag am 4 mis felly gallai fod wedi cael mynediad.

Er bod y mater wedi’i ddatrys erbyn hyn, penderfynodd yr Ombwdsmon fod sawl camgymeriad wedi cael ei wneud yn ogystal â diffyg cyfathrebu rhwng y timau dan sylw a oedd wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr N.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr N o fewn pythefnos i ymddiheuro a chynnig £250 i gydnabod ei fethiannau.

Yn ôl