Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl): Cyngor Sir Penfro

Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2023

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305161

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Penfro

Cwynodd Mrs A, er bod Cyngor Sir Penfro wedi dweud wrthi y byddai’n ymchwilio i’r lleithder yn ei heiddo yn ystod yr haf 2022, nid oedd wedi gwneud hynny. At hynny, dywedodd Mrs A nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w negeseuon ebost am y mater.

Canfu’r Ombwdsmon ei fod, yn ei lythyr at Mrs A dyddiedig 15 Mehefin 2022, wedi dweud y byddai’n cynnal archwiliad o’i heiddo yn ystod yr haf [2022] ac yn cofnodi darlleniadau lleithder i weld a oedd lleithder go iawn yn yr eiddo yn hytrach na llwydni sy’n cael ei achosi gan gyddwysiad. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod yr archwiliad wedi digwydd. Canfu hefyd fod y Cyngor wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynwyd gan Mrs A ar 3 Medi, yn unol â’i bolisi cwynion.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs A, o fewn 10 diwrnod gwaith, am fethu cynnal archwiliad o’i heiddo ac am fethu ymateb i’w chŵyn, ac i roi ymateb ysgrifenedig i gŵyn Mrs A. O fewn 28 diwrnod, cynnal archwiliad llawn o eiddo Mrs A i gofnodi darlleniadau lleithder, gyda’r nod o ganfod beth sy’n achosi’r lleithder. O fewn 10 diwrnod gwaith i’r archwiliad, rhannu canfyddiadau’r archwiliad â Mrs A ynghyd â chynllun gwaith arfaethedig i fynd i’r afael ag achos y lleithder, yn ôl yr angen.

Yn ôl