Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl) : Valleys To Coast Housing

Dyddiad yr Adroddiad

06/12/2022

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202205178

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Valleys To Coast Housing

Cwynodd Mrs X fod y Gymdeithas wedi gadael ei gardd mewn cyflwr anniogel ac annioddefol i’w phlant chwarae ynddi, yn dilyn presenoldeb contractwyr yn ei chartref.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi yn ymateb y Gymdeithas i gwynion, a arweiniodd Mrs X i gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i roi ei hymateb i’r gŵyn ac ymddiheuro am yr oedi. Cytunodd hefyd i dalu iawndal o £100 i Mrs X am yr amser a’r drafferth.

Yn ôl