16/06/2021
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)
Datrys yn gynnar
202100196
Datrys yn gynnar
Cymdeithas Tai Sir Fynwy
Prif gŵyn Mr X oedd bod Cymdeithas Tai Sir Fynwy (“y Gymdeithas Dai”) wedi oedi cyn canfod a chywiro pla pryf pren yn ei eiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod y broblem yn bod ers dros 18 mis oherwydd sawl rheswm a oedd y tu hwnt i reolaeth Mr X. Canfu’r Ombwdsmon dystiolaeth hefyd a oedd yn awgrymu y gellid bod wedi osgoi’r broblem o bosibl ac nad oedd arolwg ar ôl cwblhau’r gwaith wedi’i gynnal cyn i Mr X a’i deulu symud i’r eiddo. Er bod y Gymdeithas Dai wedi ymddiheuro’n barod ac wedi cynnig taliad i Mr X fel arwydd o ewyllys da, nid oedd yr Ombwdsmon yn teimlo bod y cynnig yn cyfateb i’r lefelau iawndal yr oedd yn eu hargymell. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i dalu iawndal o £400 i Mr X o fewn 1 mis.