24/10/2023
Dadgofrestriad
Datrys yn gynnar
202302782
Datrys yn gynnar
Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Ms A am y ffordd yr oedd y Practis wedi ei thynnu oddi ar eu rhestr a’r ffordd yr ymdriniwyd â’i chwyn i’r mater hwnnw.
Roedd yr Ombwdsmon wedi mynd i’r afael eisoes â methiant y Practis i ymateb i gŵyn Ms A drwy benderfyniad datrysiad cynnar. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Practis wedi llwyddo i arddangos eu bod wedi darparu’r rhybudd angenrheidiol i Ms A o fewn 1 flwyddyn cyn ei thynnu oddi ar eu rhestr. Roedd hyn yn gyfystyr â chamweinyddu ar ran y Practis a achosodd anghyfiawnder i Ms A.
Yn hytrach nac ymchwilio i’r gŵyn, sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ddarparu ymddiheuriad ystyrlon i Ms A am fethu â’i rhybuddio y gallai gael ei thynnu oddi ar restr cleifion y Practis ac y byddent yn cynnal ymarfer dysgu gwersi er mwyn sicrhau bod y weithdrefn tynnu oddi ar restr yn cael ei dilyn yn gywir yn y dyfodol. Cytunodd y Practis i wneud hyn o fewn 1 mis.