09/08/2021
Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b
Datrys yn gynnar
202101675
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir Ceredigion
Cwynodd Mrs A am gamau gweithredu Cyngor Sir Ceredigion mewn perthynas â materion cynllunio a gorfodi mewn perthynas â datblygiad tai ar dir wrth ymyl ei chartref ac, yn benodol, bod lefelau’r tir wedi cael eu codi. Cwynodd Mrs A hefyd am oedi wrth ddelio â chwynion, cyfathrebu gwael y Cyngor ac na chafodd y cwestiynau a godwyd eu hateb yn llawn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd digon o dystiolaeth o gamweinyddu yn y broses gynllunio neu orfodi i warantu ymchwiliad. Ymddengys bod oedi heb esboniad yn y broses delio â chwynion ond roedd ymddiheuriad eisoes wedi’i ddarparu gan y Cyngor. Fodd bynnag, roedd yr ymateb i’r gŵyn yn cynnwys manylion ac esboniad ynghylch sut y daethpwyd i’r penderfyniad ac nid oedd y Cyngor wedi ymateb i gwestiynau ychwanegol a godwyd gan Mrs A.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a sicrhaodd gytundeb y Cyngor i roi ymateb llawnach i gŵyn Mrs A o fewn 20 diwrnod gwaith, gan roi sylw i’r pryderon penodol a godwyd gyda’r adran gynllunio, gan gynnwys esboniad gwell ynghylch sut y cyfrifwyd lefelau’r ddaear, ymateb ysgrifenedig i’r ymholiadau a godwyd gyda’r Adran Gwynion, ac ymddiheuriad am fethiant y Cyngor i fynd i’r afael â’r cwestiynau atodol a godwyd.