Dewis eich iaith
Cau

Datgelu a chofrestru buddiannau: Cyngor Cymuned Llanhiledd ac Abertyleri

Dyddiad yr Adroddiad

16/08/2023

Pwnc

COD - Datgelu a Chofrestru Buddiannau

Canlyniad

COD

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202005463

Math o Adroddiad

COD - Dim Angen Gweithredu

Corff Perthnasol

Cyngor Cymuned Llanhiledd ac Abertyleri

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Aelod o Gyngor Cymuned Llanhiledd ac Abertyleri (“y Cyngor”) yn erbyn cyd aelod (ar y pryd) (“y Cyn Aelod”).  Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi methu â datgan yn briodol fuddiant mewn materion Adnoddau Dynol (“AD”) yn ymwneud â Chyn Glerc y Cyngor a’i fod wedi ennill mantais iddo ei hun yn anmhriodol.

Canfu’r ymchwiliad fod y Cyn Aelod, ar ôl iddo dderbyn cyngor anghywir gan Ddirprwy Glerc y Cyngor, wedi methu â datgan buddiant personol neu fuddiant a oedd yn rhagfarnu o ran materion AD a oedd yn ymwneud a’r Cyn Glerc, er bod ymchwiliad yn mynd rhagddo gan yr Ombwdsmon ar yr adeg lle yr oedd cwyn yn erbyn y Cyn Aelod gan y Cyn Glerc.  Pleidleisiodd y Cyn Aelod ar gytundeb setlo rhwng y Cyngor a’r Cyn Glerc.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad y dylai’r Cyn Aelod fod wedi datgan buddiant personol neu fuddiant a oedd yn rhagfarnu mewn materion a oedd yn ymwneud a’r Cyn Glerc, o ystyried yr ymchwiliad parhaus.  Roedd methiant i wneud hynny yn awgrymu torri paragraffau 11 a 14 o’r Cod Ymddygiad.

Ni chanfu’r ymchwiliad fod methiant y Cyn Aelod i ddatgan buddiant personol neu fuddiant a oedd yn rhagfarnu wedi arwain yn uniongyrchol at ennill mantais iddo’i hun.  Canfu’r ymchwiliad hefyd nad oedd y dystiolaeth yn cefnogi canfyddiad o ‘ddwyn anfri’ yn groes i baragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.  Roedd gweithredoedd y Cyn Aelod wedi’u lliniaru’n gryf gan y cyngor anghywir a gafodd mewn perthynas â’i ddyletswydd i beidio â chwarae unrhyw ran yn y penderfyniad.  Yn ogystal, nid oedd unrhyw dystiolaeth uniongyrchol bod ei weithredoedd wedi achosi mantais iddo’i hun, a byddai’r cytundeb wedi’i gymeradwyo hyd yn oed pe na bai’r Cyn Aelod wedi cymryd rhan yn y cyfarfod.  Daeth i’r casgliad felly nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

Gwnaed argymhelliad i’r Cyngor i aelodau a staff gael hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, yn enwedig mewn perthynas â buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu, cyn gynted â phosibl.

Yn ôl