Dewis eich iaith
Cau

Datgelu a chofrestru buddiannau : Cyngor Tref Conwy

Dyddiad yr Adroddiad

12/05/2021

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Canlyniad

COD

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202004765

Math o Adroddiad

COD - Rhoddwyd y gorau

Corff Perthnasol

Cyngor Tref Conwy

Cwynodd un o Swyddogion Cyngor Tref Conwy fod Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad Aelodau pan fethodd â datgan buddiant personol a rhagfarnus ym musnes y Cyngor a gadael yr ystafell tra oedd y busnes hwnnw’n cael ei drafod mewn dau gyfarfod o Gyngor Tref Conwy.  Roedd yr Aelod wedi cael ei atal yn flaenorol am fis gan y Pwyllgor Safonau am ymddygiad tebyg.

Ystyriodd yr Ombwdsmon a allai’r Aelod fod wedi torri paragraffau 6(1)(a), 11(1), ac 14(1)(a)(ii) o’r Cod Ymddygiad.

Ymddiswyddodd yr Aelod o Gyngor Tref Conwy yn ystod ymchwiliad yr Ombwdsmon.  Penderfynodd yr Ombwdsmon roi’r gorau i’r ymchwiliad gan nad oedd bellach er budd y cyhoedd i fynd ar drywydd y mater ymhellach.

Yn ôl