Dewis eich iaith
Cau

Diogelu : Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dyddiad yr Adroddiad

02/03/2022

Pwnc

Diogelu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202107399

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cwynodd Mr a Mrs X nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w cwyn ynghylch Gwasanaethau Plant “yn cyflawni troseddau yn eu herbyn”.
Tra’n nodi nad mater i’r Ombwdsmon oedd penderfynu a oedd trosedd wedi ei chyflawni, penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig sylweddol i Mr a Mrs X er mwyn mynd i’r afael yn llawn â’u cwyn. Dylai hefyd roi esboniad i Mr a Mrs X am y cyfathrebu gwael, ac ymddiheuriad cydymdeimladol am yr oedi sylweddol wrth ymateb i’w cwyn.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.

Yn ôl