Dewis eich iaith
Cau

Diogelu : Cyngor Sir Ynys Môn

Dyddiad yr Adroddiad

30/09/2021

Pwnc

Diogelu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202103076

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Ynys Môn

Cwynodd Ms X fod mewnbwn Cyngor Sir Ynys Môn (“y Cyngor”) wedi gwneud iddi deimlo heb gefnogaeth pan roedd mewn gofal, ac fel rhywun sy’n gadael gofal. Dywedodd Ms X na roddodd y Cyngor gynllun gofal ystyrlon iddi, na chynllun llwybr perthnasol. Dywedodd hefyd na chafodd gefnogaeth i gael mynediad i addysg.

Daeth yr asesiad i’r casgliad fod yr archwiliad annibynnol cam 2 (“II”) ynghylch y gŵyn, yn rhesymol. Yn unol â hynny, ac oherwydd yr anawsterau a nodwyd yn y cyfnod amser ers y digwyddiadau, ni fyddai’n gyfrannol i’r Ombwdsmon archwilio’r gŵyn.

Fodd bynnag, o ystyried y methiant gwasanaeth a nodwyd gan yr II ac amser a thrafferth yr achwynydd o ran mynd ar ôl y gŵyn, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i’r achwynydd a thalu £250 iddi o fewn 1 mis. Cytunodd i ddarparu iawndal priodol a/neu weithredu unrhyw gais am gyllid gan achwynydd o fewn mis o roi tystiolaeth iddi. Cytunodd hefyd i gynnig trefnu cyfarfod i drafod canfyddiadau adroddiad II o fewn mis, a chyfarfod arall yn nes ymlaen fel yr awgrymwyd yn yr II.

Yn ôl