15/05/2023
COD - Dyletswydd i gynnal y gyfraith
COD
202107167
COD - Dim angen gweithredu
Cyngor Tref Abergele
Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Abergele (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad oherwydd methiannau wrth weithredu fel Clerc i Fwrdd dan reolaeth y Cyngor hwn a chyngor cyfagos (“y Bwrdd”).
Penodwyd yr Aelod yn Glerc y Bwrdd. Adeg yr apwyntiad, roedd yr Aelod ac aelodau’r Bwrdd o’r farn bod y Bwrdd yn gorff annibynnol.
Y gŵyn oedd bod yr Aelod wedi methu â chyflawni tasgau gofynnol, honni’n anghywir bod y Bwrdd yn gorff annibynnol, pan nad oedd, a’i fod wedi cymryd cyflog gan y Bwrdd yn amhriodol. Roedd y gŵyn yn awgrymu bod y camau hyn wedi arwain at adroddiad beirniadol gan Archwilio Cymru a gafodd effaith negyddol ar enw da’r Bwrdd a’r cynghorau sy’n gysylltiedig ag ef.
Ystyriodd yr ymchwiliad gamau gweithredu’r Aelod a’r Bwrdd drwy adolygu dogfennau a chyfweld tystion perthnasol. Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd a’r cynghorau sy’n gysylltiedig ag ef i gyd yn gweithredu o dan y camddealltwriaeth ei fod yn gorff annibynnol ac nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw un wedi cymryd camau i ganfod y sefyllfa gyfreithiol gywir.
Canfu’r ymchwiliad y penodwyd y Clerc drwy broses recriwtio, a bod pawb a oedd yn gysylltiedig o’r farn eu bod yn gymwys i gyflawni’r rôl. Nid oedd y cyfrifon a’r dogfennau’n cael eu cadw’n dda iawn ac er bod gan yr Aelod rywfaint o gyfrifoldeb dros hynny, nid oedd fawr ddim goruchwyliaeth gan y Bwrdd na’r cynghorau cysylltiedig.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd yr Aelod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod etholedig pan ymgymerodd â’i rôl fel Clerc, felly nid oedd yr holl God Ymddygiad yn berthnasol.
Mae’r cyfrifoldeb dros lywodraethu gwael y Bwrdd yn nwylo pawb sy’n gysylltiedig. Canfuwyd hefyd bod yr Aelod wedi cymryd y cyflog yn ddidwyll ac nad oedd wedi camarwain neb ynghylch ei rôl na’i thâl am y rôl honno. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod yr Aelod yn gyfrifol i raddau helaeth am fethu â sefydlu sefyllfa gyfreithiol y Bwrdd ac y dylai’r Aelod fod wedi gwneud gwaith ymchwil priodol yn gynt. Mae methu â gwneud hynny yn rhoi enw da’r Bwrdd a’r Cyngor mewn perygl ac mae’n awgrymu fod amodau paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad wedi eu torri.
Er y nodir bod camau gweithredu’r Aelod yn awgrymu bod amodau’r Cod Ymddygiad wedi cael eu torri, roedd mesurau lliniaru sylweddol wedi codi oherwydd bod pawb a oedd yn gysylltiedig yn gweithredu o dan yr un gred anghywir bod y Bwrdd yn endid ar wahân ac nad oedd neb wedi gofyn am gyngor annibynnol ar y mater hwn. Hyd yn oed pe bai atgyfeiriad at y Pwyllgor Safonau, mae’n ymddangos, o ystyried y mesurau lliniaru, a’r ffaith bod yr Aelod hefyd wedi ymddeol o fywyd cyhoeddus erbyn hyn, ei bod yn annhebygol, hyd yn oed pe bai achos o dorri amodau’r Cod Ymddygiad yn cael ei brofi, y byddai sancsiwn o unrhyw fath yn cael ei roi. Gan hynny, o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, y canfyddiad yw nad oes angen cymryd unrhyw gamau yng nghyswllt y materion yr ymchwiliwyd iddynt.