14/02/2022
Eraill Amrywiol
Datrys yn gynnar
202104092
Datrys yn gynnar
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cwynodd Mr N am fethiant yr Awdurdod i wneud gwaith yr oedd wedi cytuno i’w wneud ac a oedd yn destun adroddiad blaenorol gan yr Ombwdsmon. Roedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith, a chaniatâd Llywodraeth Cymru i wneud gwaith ar dir comin. Dangosodd ymholiadau’r Ombwdsmon i’r Awdurdod, er bod oedi sylweddol wedi bod ar ran yr Awdurdod, a oedd, yn ei farn ef, yn gyfystyr â chamweinyddu, roedd yr Awdurdod wedi cynnal ymarfer tendro ar gyfer peth o’r gwaith, a’i fod yn aros am ganiatâd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gweddill.
Cytunodd yr Awdurdod i gwblhau’r gwaith a oedd wedi’i gynnwys yn y tendr erbyn diwedd mis Mawrth 2022, ac i gwblhau gweddill y gwaith o fewn 3 mis ar ôl i Lywodraeth Cymru roi ei chaniatâd ar gyfer y gwaith. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd resymol o ddatrys cwyn Mr N.