12/10/2021
Eraill Amrywiol
Datrys yn gynnar
202103117
Datrys yn gynnar
Cyngor Caerdydd
Cwynodd Mr X, yn dilyn penderfyniad Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) i’w gyfyngu rhag mynd i’w ganolfan leol, fod y Cyngor wedi methu ag ystyried bod ei anghenion a’i anawsterau iechyd yn effeithio ar ei allu i deithio i ganolfannau eraill. Dywedodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi ystyried opsiynau eraill fel y gallai barhau i dderbyn gwasanaethau yn ei ganolfan leol.
Casglodd yr Ombwdsmon er bod y Cyngor yn ymwybodol o anawsterau iechyd Mr X, nad oedd wedi ystyried y gallent effeithio ar allu Mr X i deithio ac nad oedd wedi ystyried opsiynau eraill fel y gallai Mr X barhau i dderbyn gwasanaethau yn ei ganolfan leol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Cyngor a gytunodd i ymddiheuro wrth Mr X am beidio â chydnabod ei anawsterau iechyd o ran gallu defnyddio Canolfannau eraill, rhoi cyfle i Mr X egluro ei anghenion yn y cyswllt hwn, ac ystyried opsiynau posib eraill fel y gallai Mr X barhau i ddefnyddio’r gwasanaethau yn ei ganolfan leol, o fewn 10 diwrnod gwaith.