Dewis eich iaith
Cau

Eraill Amrywiol : Cyngor Sir Ynys Môn

Dyddiad yr Adroddiad

19/04/2022

Pwnc

Eraill Amrywiol

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202107569

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Ynys Môn

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â delio â’i gŵyn am beli golff diangen oedd yn glanio yn ei eiddo o glwb golff cyfagos. Dywedodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â rheoli’n effeithiol y risg fod y peli’n glanio ar ei eiddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chofnodi pryderon Mr X fel cwyn. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mr X erbyn 12 Mai 2022:

a) Ymddiheuro i Mr X nad oedd ei bryderon wedi’u cofnodi fel cwyn

b) Darparu ymateb i’r gŵyn

c) Rhoi eglurhad i Mr X ar y sefyllfa bresennol ac ymrwymi i ddiweddaru Mr X pan fydd y Cyngor mewn sefyllfa i wneud penderfyniad terfynol ar y materion diogelwch a nodwyd.

Yn ôl