06/03/2023
Eraill
Rhoddwyd y gorau
201900226
Rhoddwyd y gorau i ymchwilio'r gŵyn (heb setliad)
Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Mr E am ymddygiad y staff gofal iechyd tuag ato a’r cyfyngiadau ymweld a roddwyd arno pan gafodd ei wraig ei derbyn i’r ysbyty fel claf mewnol. Cwynodd hefyd am agweddau ar ofal ei wraig oedd yn cynnwys gofal nyrsio. Ar ben hynny, roedd yn anfodlon â’r broses oedd wedi arwain at ryddhau ei wraig i gartref gofal a sut roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i gŵyn.
Fe wnaeth yr Ombwdsmon roi’r gorau i’r ymchwiliad gan fod yr achos llys yr oedd Mr E wedi ei drefnu yn golygu ei fod wedi arfer rhwymedi cyfreithiol amgen (“ALR”). Roedd y cyfyngiadau sy’n berthnasol o dan y ddeddfwriaeth sy’n rhoi pwerau iddi fel Ombwdsmon yn golygu na allai ymchwilio i’r gŵyn mwyach. Ar sail canfyddiadau’r llys daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd y dylid rhoi’r gorau i’r rhannau o gŵyn Mr E yn ymwneud â gofal ei wraig hefyd. Yn olaf, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, hyd yn oed pe na bai’r ALR yn berthnasol i’r materion trafod cwynion yr oedd Mr E wedi’u codi, nad oedd yn gymesur i barhau â’r ymchwiliad i’r materion hynny ar eu pennau eu hunain.