Dewis eich iaith
Cau

Eraill: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dyddiad yr Adroddiad

04/12/2023

Pwnc

Eraill

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202200759

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cwynodd Mrs O nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi darparu cefnogaeth a gofal digonol i’w merch, L, o 2018 hyd at ei marwolaeth ar 27 Gorffennaf 2020.

Canfu’r Ombwdsmon fod L wedi cael cefnogaeth a gofal digonol yn ystod y cyfnod dan sylw. Roedd y pecyn Gofal Parhaus a oedd ar waith yn briodol ar gyfer anghenion L ac roedd y Bwrdd Iechyd a swyddogion proffesiynol eraill wedi cynnal adolygiadau rheolaidd o’r gofal a’r cymorth roedd arni eu hangen gan ymateb i unrhyw newid yn ei chyflwr. Ni chadarnhawyd y gŵyn.

Fodd bynnag, fe gydnabu’r Ombwdsmon y gallai’r Bwrdd Iechyd fod wedi cyfathrebu’n well gyda Mrs O ynglŷn â’r ystyriaeth a roddodd i’w chais am 2 ofalwr yn ystod y nos. Er na chadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn, gwahoddwyd y Bwrdd Iechyd i ystyried ei gyfathrebu gwael a sut y gellid bod wedi gwella hyn.

Yn ôl