Dewis eich iaith
Cau

Eraill: Cyngor Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

18/12/2023

Pwnc

Eraill

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306787

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Abertawe

Cwynodd Mr A fod y Cyngor wedi cytuno i drwsio ei ddreif oherwydd difrod a achoswyd gan wreiddiau coeden oedd yn tyfu ar dir y Cyngor. Bu cryn oedi ar ran y Cyngor o ran trefnu a chyflawni’r gwaith hwn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi cyn i’r Cyngor ymgymryd â’r gwaith adfer angenrheidiol. Roedd yr oedi yn enghraifft o gamweinyddu ac roedd Mr A wedi cael cam.

I ddatrys y gŵyn, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro o fewn mis i Mr A am yr oedi cyn delio â’r mater a threfnu i’r gwaith angenrheidiol gael ei wneud. Cytunodd hefyd i ddechrau’r gwaith angenrheidiol o fewn 1 mis (a rhoi gwybod i Mr A pan fyddai dyddiad cychwyn wedi’i bennu) a chwblhau’r gwaith o fewn 1 mis i’r dyddiad cychwyn.

Yn ôl