Dewis eich iaith
Cau

Eraill: Cyngor Bro Morgannwg

Dyddiad yr Adroddiad

07/12/2023

Pwnc

Eraill

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202303482

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Bro Morgannwg

Cwynodd Mrs A fod ymateb Cyngor Bro Morgannwg i gŵyn Cam 1 yn dweud y dylai fod wedi nodi’r camgymeriad a wnaed gyda’i hysbysiad cyhoeddus am ei chais trwyddedu o’r cychwyn cyntaf, ond roedd wedi gwrthod ad-dalu’r gost iddi ail-hysbysebu.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor eisoes wedi cymryd rhywfaint o gamau priodol i ymateb i gŵyn Mrs A. Roedd wedi cynorthwyo Mrs A i ailgyflwyno ei chais ac wedi gofyn am adolygiad o’r broses ymgeisio bresennol. Fodd bynnag, roedd y wybodaeth a roddwyd i Mrs A am y broses ddilysu yn aneglur. Pe bai’r Cyngor wedi rhoi gwybod i Mrs A am y camgymeriad o’r cychwyn cyntaf, gallai fod wedi newid ei hysbysiad cyhoeddus heb unrhyw gost ychwanegol. Fe achosodd y broses ddilysu oedi a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs A am beidio darparu gwybodaeth eglur am y broses ddilysu ac i dalu’r swm hafal i gost ail-hysbysebu’r hysbysiad cyhoeddus, o fewn 10 diwrnod gwaith.

Yn ôl