Dewis eich iaith
Cau

Eraill: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dyddiad yr Adroddiad

07/12/2023

Pwnc

Eraill

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202106539

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cwynodd Mr A am benderfyniad y Cyngor, ym mis Gorffennaf 2021, i symud ei gymar, Ms B, o’r cartref y bu’r ddau yn byw ynddo ers 30 mlynedd a’i rhoi mewn cartref gofal. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i geisio canfod a oedd y Cyngor wedi dilyn y drefn gywir wrth symud Ms B, ac a oedd unrhyw fethiannau yn y ffordd y deliodd y Cyngor â Mr A mewn perthynas â symud Ms B.

Canfu’r Ombwdsmon fod staff y Cyngor wedi dilyn y gweithdrefnau cywir. Wrth ystyried a oedd unrhyw fethiannau yn y ffordd y deliodd y Cyngor â Mr A, canfu’r Ombwdsmon fod dull y staff yn briodol o dan yr amgylchiadau. Ni chafodd cwynion Mr A eu cadarnhau.

Yn ôl