26/08/2021
Eraill
Datrys yn gynnar
202102409
Datrys yn gynnar
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cwynodd Ms X nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w chwyn ac nad oedd wedi ymateb i’w gohebiaeth ddilynol bellach.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Ms X wedi cael ymateb ffurfiol i’w chwyn a’i bod wedi cael ei hanhwyluso gan weithredoedd y Cyngor. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i:
Roi ymddiheuriad i Ms X am yr oedi wrth ymateb i’w chwyn
Rhoi esboniad i Ms X am yr oedi
Rhoi ymateb i gŵyn Ms X
Rhoi taliad iawndal o £125 i Ms X i gydnabod yr amser a’r drafferth a gafodd wrth wneud ei chwyn a’r oedi y mae wedi’i wynebu.
Cytunodd y Cyngor i gyflawni’r camau hyn o fewn pythefnos.