09/05/2022
Eraill
Datrys yn gynnar
202108019
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir Ceredigion
Cwynodd Ms X am ymateb y Cyngor i’r cwynion yr oedd wedi’u codi gydag ef. Roedd y cwynion yn ymwneud â materion Treth Gyngor a Chynllunio.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb yn briodol i’r cwynion am y Dreth Gyngor, ond fod yr ymateb am y materion Cynllunio yn dal heb gael sylw.
Cytunodd y Cyngor felly i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i Ms X ar y materion cynllunio a oedd heb gael sylw erbyn 31 Mai 2022.