26/10/2021
Eraill
Datrys yn gynnar
202104682
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir Ddinbych
Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â gwneud asesiad anghenion ar gyfer ei mab.
Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Cyngor wedi ystyried cwyn Ms X yn unol â’i bolisi cwynion.
O ganlyniad i adnabod y pryderon hyn, ac i setlo cwyn Ms X (yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio i’r mater), cytunodd y Cyngor erbyn 3 Rhagfyr 2021 i ymateb i gŵyn Ms X yn ymchwilio i’w phryderon nad oedd asesiad anghenion wedi’i wneud.