Dewis eich iaith
Cau

Eraill: Cyngor Sir Fynwy

Dyddiad yr Adroddiad

21/11/2023

Pwnc

Eraill

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304749

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Fynwy

Cwynodd Mr A a’i frawd nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn brydlon i’w cwyn ac nad oedd eu lleisiau’n cael eu clywed. Roeddent hefyd yn cwyno nad oedd y Cyngor wedi darparu ymateb Cam 2 dilynol i’r gŵyn, o ystyried y ffaith eu bod yn anfodlon ag ymateb cychwynnol y Cyngor.

Cysylltwyd â’r Cyngor a gadarnhaodd na ddarparwyd ymateb Cam 2 gan nad oedd yr achwynwyr wedi gofyn am ymchwiliad Cam 2. Cafodd cwyn Mr A a’i frawd ei setlo ar y sail bod y Cyngor wedi cytuno i gysylltu â Mr A a’i frawd i ddechrau ymchwiliad Cam 2.

Yn ôl