Dewis eich iaith
Cau

Ffyrdd a Thrafnidiaeth: Cyngor Caerdydd

Dyddiad yr Adroddiad

20/12/2023

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202307073

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Caerdydd

Cwynodd Mr F nad oedd Cyngor Caerdydd wedi ymateb i’w gŵyn nac i’w ebyst.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cofnodi pryderon Mr F fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr F gydag ymddiheuriad ac esboniad am y methiant, cynnig talu iawndal o £50 i Mr F am ei amser a’i drafferth wrth wneud ei gŵyn i’r Ombwdsmon a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.

Yn ôl