Dewis eich iaith
Cau

Gostyngiad yn y Dreth Gyngor : Cyngor Bro Morgannwg

Dyddiad yr Adroddiad

30/11/2022

Pwnc

Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202203385

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Bro Morgannwg

Cwynodd Mrs H i’r Ombwdsmon am nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi prosesu ei chais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor a anfonwyd ato fis Ionawr 2021. Cwynodd hefyd nad oedd y Cyngor wedi ystyried ei hawliad Adran 13A (o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992) am Ostyngiad Dewisol yn y Dreth Gyngor ers dros flwyddyn a’i fod wedi gwrthod ôl-ddyddio’r hawliad am Ostyngiad yn y Cyngor hyd ddechrau Ebrill 2021.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor yn honni nad oedd wedi cael cais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor ond na wnaeth brosesu cais Adran 13A Gostyngiad Dewisol yn y Dreth Gyngor Mrs H tan ar ôl i Mrs H gwyno ym mis Mai 2022. Pe bai’r cais wedi’i brosesu o bolisi fewn amserlenni’r Cyngor byddai Mrs H wedi’i hysbysu’n gynharach nad oedd wedi cael y cais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor ac y byddai felly’n debygol o fod wedi ailgyflwyno’r cais erbyn Mehefin 2021 gan alluogi’r Cyngor i ôl-ddyddio unrhyw gais i Ebrill 2021.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs H am yr oedi cyn prosesu’r cais am Ostyngiad Dewisol yn y Dreth Gyngor ac i brosesu Gostyngiad yn y Dreth Gyngor i Mrs H fel pe bai wedi’i gael yn ddim hwyrach na Mehefin 2021, ac felly’n ôl-ddyddio’r ad-daliad am y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 28 Medi 2021.

Yn ôl