Dewis eich iaith
Cau

Gostyngiad yn y Dreth Gyngor: Cyngor Sir Ynys Môn

Dyddiad yr Adroddiad

11/12/2023

Pwnc

Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306228

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Ynys Môn

Cwynodd Mrs F nad oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi darparu ymateb ffurfiol i’w chŵyn am iddyn nhw godi £406.98 yn ormod o Dreth Gyngor arni, cwyn a wnaeth i’r Cyngor ym mis Ebrill 2023.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi trin pryderon Mrs F fel cwyn ffurfiol oherwydd y cyfathrebu a fu rhyngddynt a Mrs F. Fodd bynnag, canfu fod oedi sylweddol wedi bod wrth ddod i benderfyniad ar ei bil Treth Gyngor ac nad oedd y Cyngor wedi darparu unrhyw air ystyrlon am y sefyllfa ddiweddaraf. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad ac esboniad i Mrs F am yr oedi ac i gwblhau ei ymchwiliad i’r gordaliadau o fewn pythefnos.

Yn ôl