Dewis eich iaith
Cau

Gwasanaethau Ambiwlans: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dyddiad yr Adroddiad

24/11/2023

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304534

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Cwynodd Mr A am yr amser a gymerodd ambiwlans i gyrraedd ar ôl ffonio 999, a mynegodd bryder ynghylch yr wybodaeth a gafodd gan unigolion sy’n cymryd galwadau o fewn yr Ymddiriedolaeth ar sut mae penderfynu ar flaenoriaeth yr alwad.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Ymddiriedolaeth wedi ymateb i gŵyn gychwynnol Mr A. Fodd bynnag, roedd yn bryderus ei fod yn anfodlon ag esboniad yr Ymddiriedolaeth ynghylch sut mae’n blaenoriaethu ac yn ymateb i bob galwad brys. Rhoddodd yr Ombwdsmon ystyriaeth i’r ffaith fod system delio a blaenoriaethu galwadau’r Ymddiriedolaeth yn gymhleth, a phenderfynodd y byddai’n ddefnyddiol i Mr A gael esboniad pellach. Fel dewis arall yn lle ymchwilio i’r gŵyn, gwnaeth yr Ombwdsmon argymhelliad a chytunodd yr Ymddiriedolaeth i’w roi ar waith.

Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i gysylltu â Mr A o fewn 10 diwrnod gwaith i drefnu dyddiad cyfleus i gynnull cyfarfod er mwyn trafod y system delio a blaenoriaethu galwadau.

Yn ôl