13/07/2021
Gwasanaethau Ambiwlans
Datrys yn gynnar
202100520
Datrys yn gynnar
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cwynodd Mrs X am amser ymateb ambiwlans a’r flaenoriaeth a roddwyd i’r galwadau a wnaed i’r Ymddiriedolaeth ar 9 Gorffennaf 2020.
Canfu’r Ombwdsmon fod ymchwiliad yr Ymddiriedolaeth a’r Adroddiad Ymchwilio i Ddigwyddiadau Difrifol dilynol wedi achosi i Mrs X ofyn cwestiynau pellach.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i ddarparu ymateb ysgrifenedig pellach i Mrs X, o fewn 30 diwrnod gwaith, a oedd yn ymhelaethu ar ei chanfyddiadau a’i phrosesau ac yn eu hesbonio.