Dewis eich iaith
Cau

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn : Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Dyddiad yr Adroddiad

31/05/2022

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202201149

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cwynodd Mrs X y bu ar y rhestr aros am wasanaethau cyfryngwr gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (a gynhelir gan y Cyngor) er mis Hydref 2020. Cwynodd Mrs X hefyd, er iddi gael ymateb i’w negeseuon e-bost a’i phryderon cychwynnol, nad oedd y Cyngor wedi darparu ymateb i’w negeseuon e-bost pellach.
Cydnabu’r Cyngor nad oedd cwyn Mrs C wedi cael ei huwch-gyfeirio’n unol â’i bolisi cwynion mewnol. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mrs X erbyn 28 Mehefin 2022, yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddi:
a) Darparu i Mrs X ymddiheuriad am yr oedi cyn ymateb i’w negeseuon e-bost ac am fethu â’i chynghori sut i uwch-gyfeirio ei phryderon
b) Darparu eglurhad am y diofalwch hwn
c) Darparu ymrwymiad i atgoffa’r holl staff o’r broses i achwynwyr uwch-gyfeirio eu pryderon
d) Darparu ymateb i’r gŵyn.

Yn ôl