Dewis eich iaith
Cau

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant: Cyngor Bro Morgannwg

Dyddiad yr Adroddiad

30/11/2023

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306167

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Bro Morgannwg

Cwynodd Mrs N fod Cyngor Bro Morgannwg wedi gwrthod derbyn ei chŵyn Cam 2 yn erbyn Gwasanaethau Cymdeithasol.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cyhoeddi ymateb Cam 1, roedd wedi gwrthod caniatáu i Mrs N uwchgyfeirio ei chŵyn i ail gam 2 y weithdrefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs N. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mrs N i ymddiheuro a rhoi eglurhad am y methiant o fewn pythefnos. Cytunodd ymhellach i gomisiynu a bwrw ymlaen ag ymchwiliad annibynnol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Yn ôl