18/08/2021
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
Datrys yn gynnar
202101842
Datrys yn gynnar
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cwynodd Miss B fod gweithiwr cymdeithasol a gyflogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) wedi datgelu gwybodaeth bersonol amdani hi a’i phlant i’w chyn bartner. Roedd hyn wedi ei alluogi i wneud cais i’r llys i ddod i gysylltiad â’r plant, gan beri gofid iddi. Roedd hi eisiau atebion am yr hyn oedd wedi digwydd ond roedd hi wedi bod yn aros am wythnosau i’r Cyngor ymateb i’w chwyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch yr oedi cyn ymateb i gŵyn Miss B, er na fyddai ef ei hun yn gallu ystyried a datrys honiadau o dorri amodau data neu faterion yn ymwneud â chyswllt plant. Serch hynny, gallai ddelio â’r oedi wrth ddelio â chwynion, a oedd o fewn ei gylch gwaith. Yn lle ymchwilio i’r elfen honno o’r gŵyn, cysylltodd â’r Cyngor a cheisiodd ei gytundeb i gymryd y camau canlynol i ddatrys y gŵyn. Roedd y ddau gam i’w cwblhau o fewn 1 mis:
• Ymddiheuro’n ysgrifenedig i Miss B am yr oedi wrth ymateb i’r gŵyn.
• Darparu ymateb i’w gŵyn ar yr honiad o dorri amodau data.