21/10/2021
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
Datrys yn gynnar
202104304
Datrys yn gynnar
Cyngor Caerdydd
Cwynodd Mr X am oedi gan y Cyngor gyda chwblhau ymchwiliad ffurfiol (neu “gam dau”) i gŵyn a wnaeth ym mis Mawrth 2021.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor i ofyn am ei sylwadau ar y mater. Cafodd wybod fod yr adroddiad ar yr ymchwiliad ffurfiol wedi’i gwblhau a’i fod gyda’r Cyfarwyddwr am ystyriaeth.
Cytunwyd y byddai’r Cyngor yn cyflwyno ei adroddiad erbyn 4 Tachwedd 2021 gan ymddiheuro am yr oedi gyda chwblhau’r ymchwiliad.