31/10/2022
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
Datrys yn gynnar
202204397
Datrys yn gynnar
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Cwynodd Mr A am y gofal a’r gefnogaeth a ddarparwyd i’w fab gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac asiantaeth gysylltiedig. Dywedodd Mr A ei fod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor i’w gŵyn, ac yn benodol ei fethiant i roi gwybod i’r asiantaeth gysylltiedig am ei gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod Mr A wedi cyflwyno cwyn i’r Cyngor, nad oedd wedi cyflwyno cwyn i’r awdurdod lleol a oedd yn gyfrifol am oruchwylio cwynion am yr asiantaeth gysylltiedig. Fodd bynnag, canfu hefyd nad oedd ymateb y Cyngor wedi rhoi gwybod i Mr A am ei hawl i uwchgyfeirio ei gŵyn nac ychwaith wedi rhoi gwybod iddo am y broses gywir ar gyfer cyflwyno cwyn am yr asiantaeth gysylltiedig. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na ellid bod wedi disgwyl i Mr A fod yn ymwybodol o drefn awdurdodaethol yr asiantaeth gysylltiedig.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a cheisiodd ei gytundeb i gadarnhau i Mr A o fewn 10 diwrnod gwaith y byddai’n bwrw ymlaen â’i gŵyn. Yn dilyn hyn, cytunodd y Cyngor i gysylltu â’r awdurdod lleol i oruchwylio cwynion am yr asiantaeth gysylltiedig er mwyn darparu ymateb cydlynol ac ystyrlon i Mr A, gan roi sylw i’r holl faterion a gododd.