25/01/2022
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
Datrys yn gynnar
202106308
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir Ceredigion
Cwynodd Miss X fod y Cyngor wedi methu â diwallu anghenion ei mab a’i phlentyn. Roedd Miss X hefyd yn anhapus na chynhaliwyd ymchwiliad cam 2 mewn ffordd amserol ar ôl gofyn i’r Cyngor wneud hynny.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Cyngor wedi uwch-gyfeirio cwyn Miss X i ymchwiliad cam 2 (o dan Rheoliadau Gweithdrefn Gwyno y Gwasanaethau Cymdeithasol) pan ofynnwyd iddo, a chysylltodd â’r Cyngor i ddatrys hyn. Felly gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi ymddiheuriad i Miss X am beidio ag uwch-gyfeirio ei chŵyn pan ofynnwyd iddo, ac i benodi Swyddog Ymchwilio Annibynnol i gynnal ymchwiliad cam 2.
Erbyn 28 Chwefror, cytunodd y Cyngor i: (i) ymddiheuro i Miss X am fethu ag uwch-gyfeirio ei chŵyn ac (ii) i uwch-gyfeirio cwyn Miss X i gam 2 a phenodi Swyddog Ymchwilio Annibynnol i gynnal ymchwiliad.