Dewis eich iaith
Cau

Gwasanaethau i Bobl ag anabledd: Cyngor Sir Caerfyrddin

Dyddiad yr Adroddiad

02/11/2023

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl ag anabledd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304392

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cwynodd Miss G fod y Cyngor wedi methu cwblhau’r addasiadau a’r atgyweiriadau y cytunwyd arnynt yn ei fflat ers diwedd 2022. Dywedodd nad oedd peth o’r gwaith wedi’i wneud a bod y Cyngor wedi gwrthod gwneud gwaith arall yn ddiweddarach er gwaethaf rhoi sicrwydd, cyn iddi symud i mewn, y byddai’n cael ei gwblhau.
Canfu’r Ombwdsmon fod ymchwiliad Cam 2 y Cyngor i’r gŵyn wedi canfod oedi sylweddol wrth ddatrys pryderon Miss G, yn ogystal â diffygion o ran cyfathrebu, rheoli ei disgwyliadau ac egluro’r rhesymau dros ei benderfyniadau. Fodd bynnag, er gwaethaf y canfyddiadau hynny a chyfraniad blaenorol yr Ombwdsmon, methodd y Cyngor â gwella ei ddull o reoli’r sefyllfa a methodd â datrys y materion hynny ar ddigon o frys nac yn brydlon.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Miss G ac i gynnig £250 iddi i gydnabod yr anhwylustod a’i hamser a’i thrafferth yn mynd ar drywydd y gŵyn o fewn 1 mis. Cytunodd hefyd i gynnig asesiad Therapi Galwedigaethol cynhwysfawr newydd i Miss G, i roi rhestr wedi’i diweddaru iddi o’r holl faterion sydd heb eu datrys gydag amserlenni penodol, ac i ddatrys pob mater o fewn yr amserlenni penodol hynny.

Yn ôl