Dewis eich iaith
Cau

Gwasanaethau i Bobl hŷn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Dyddiad yr Adroddiad

14/12/2023

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306570

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cwynodd Miss F nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi darpariaeth seibiant briodol iddi.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi uwchgyfeirio’r gŵyn i ail gam y weithdrefn gwyno statudol ac yn lle hynny eu bod wedi dweud yn gyfeiliornus wrth Miss F am gysylltu â’r Ombwdsmon. Dywedodd bod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Miss F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss F, talu iawndal o £100 iddi a bwrw ymlaen ag ail gam yr ymchwiliad drwy benodi ymchwilydd annibynnol o fewn mis (yn dibynnu ar argaeledd swyddogion ymchwilio).

Yn ôl