Dewis eich iaith
Cau

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol): Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dyddiad yr Adroddiad

06/12/2023

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305977

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cwynodd Mr G nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ei roi ar y rhestr aros am lawdriniaeth cataract ar ei lygad dde yn dilyn llawdriniaeth cataract ar ei lygad chwith. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro am y methiant gan ddweud bod Mr G wedi cael ei adfer i’r rhestr aros lawfeddygol yn y safle lle dylai fod wedi bod yn wreiddiol cyn y camgymeriad. Roedd Mr G yn anhapus gyda’r ymateb hwn gan nad oedd yn esbonio’r rheswm dros y camgymeriad nac o ba ddyddiad y cafodd ei roi’n ôl ar y rhestr aros.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mr G wedi rhoi ateb digonol i’w gwestiynau am ei safle ar y rhestr aros na pha mor hir y byddai’n rhaid iddo aros am lawdriniaeth.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gydymffurfio â chynnig yr Ombwdsmon y dylai setlo’r gŵyn drwy gyhoeddi ymateb pellach i Mr G o fewn pedair wythnos yn egluro:

• Y rheswm pam na chafodd ei roi ar y rhestr aros am lawdriniaeth.
• Ei safle ar y rhestr aros nawr bod y methiant wedi’i gywiro.
• Faint o amser yn fras y gallai ddisgwyl aros am lawdriniaeth.

Yn ôl