18/08/2021
Gweithdrefnau derbyn ac apeliadau
Datrys yn gynnar
202103059
Datrys yn gynnar
Panel Apêl Derbyn - Swyddfa Esgobaeth Llandaff
Cwynodd Mr X nad oedd y Panel Derbyn wedi cael geirda ffydd gan ganolwr a roddodd ar y ffurflen gais a dywedodd pe bai’r Panel Derbyn wedi gwneud hynny, y byddai ei ferch, Miss Y, wedi cael cynnig lle yn yr ysgol. Cwynodd Mr X hefyd nad oedd y Panel Apêl wedi ystyried y dystiolaeth yn briodol ac nad oedd yn cydnabod prif bwyntiau ei apêl.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Panel Apêl a’r Panel Derbyn. Roedd y Panel Derbyn wedi cynnig lle i Miss Y yn yr ysgol ac roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn setliad priodol ar gyfer cwyn Mr X.