10/02/2023
Hawliau ac amodau tenantiaeth
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202206155
Datrys yn gynnar
Cymdeithas Tai Unedig Cymru
Cwynodd Mr F fod Cymdeithas Tai Unedig Cymru wedi methu â datrys ei bryderon nad oedd tenantiaid yn cydymffurfio â pholisi cŵn y Gymdeithas Dai.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi methu ag uwchgyfeirio cwyn Mr F yn unol â’i phroses gwyno gorfforaethol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwilio.
Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ymddiheuro wrth Mr F, rhoi esboniad iddo am y methiant hwn, cynnig talu iawn o £125, ymateb i’w gŵyn o fewn pedair wythnos a threfnu hyfforddiant perthnasol i’w staff.