Dewis eich iaith
Cau

Hawliau ac amodau tenantiaeth: Cyngor Sir Powys

Dyddiad yr Adroddiad

06/12/2023

Pwnc

Hawliau ac amodau tenantiaeth

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306048

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Powys

Cwynodd Mr X fod Cyngor Sir Powys wedi methu ag unioni’r niwsans sŵn a achoswyd gan ei gymydog yn cadw gormod o gŵn yn eu heiddo, gan dorri’r gytundeb tenantiaeth.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yr ymateb a anfonwyd gan y Cyngor yn manylu ar y camau yr oedd yn bwriadu eu cymryd i ddatrys y mater. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i anfon ymateb pellach i Mr X o fewn wythnos i roi gwybod am y camau y mae’n bwriadu eu cymryd i ddatrys y pryder. At hynny, bydd yn trefnu apwyntiad i Swyddog Tai ymweld â chartref Mr X i asesu a thrafod ei bryderon ymhellach.

Yn ôl