Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Dyddiad yr Adroddiad

03/11/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202107125

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Ystyriodd yr Ombwdsmon y cwynion gan Ms A am ei thriniaeth gan y Bwrdd Iechyd, yn benodol nad oedd Arweinydd y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (“CMHT”) a siaradodd â hi ar 29 Ionawr 2021 wedi rhoi cefnogaeth ddigonol iddi a’i bod wedi torri ei dyletswydd gofal tuag at Ms A, a bod y cofnod o’r alwad a wnaed gan Arweinydd Tîm CMHT yn anghywir. Cwynodd Ms A hefyd na chafodd ei rhyddhad o’r CMHT yn ddiweddarach, gan gynnwys trosglwyddo ei gofal i ardal newydd, ei rheoli’n briodol, a bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn yn annigonol ac nad oedd yn unol â’r broses Gweithio i Wella (“PTR”).

Ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, a oedd yn cynnwys recordiad cudd a wnaed gan Ms A o’r sgwrs ffôn ym mis Ionawr, canfu’r Ombwdsmon ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod nifer o elfennau allweddol o grynodeb y Bwrdd Iechyd o’r alwad yn y cofnodion clinigol yn anghywir. O ganlyniad, canfu, er nad oedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan y CMHT yn ystod yr alwad yn amhriodol, o ystyried y ffaith bod Ms A wedi nodi bwriad posib i ladd ei hun, y dylid bod wedi cyfeirio at asiantaethau cymorth, a, gan na chafodd hynny ei wneud, roedd hyn yn anghyfiawnder i Ms A. Canfu, er bod yr ymateb i’r gŵyn yn cyd-fynd i raddau helaeth â’r PTR, nad oedd yn ymddangos ei fod wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i recordiad Ms A o alwad ffôn wrth greu’r ymateb, nac wrth ddarparu sylwadau’n ddiweddarach i’r Ombwdsmon. Gan hynny, cadarnhawyd y 3 chŵyn hyn. Canfu’r Ombwdsmon yr ymdriniwyd yn briodol ar y cyfan â rhyddhau a throsglwyddo Ms A felly ni chadarnhawyd y gŵyn hon.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms A am y materion a nodwyd a chynnig taliad o £750 iddi i gydnabod y methiant i’w chyfeirio at asiantaethau cymorth yn ystod y sgwrs ffôn ac am y ffordd wael yr ymdriniodd â’r gŵyn. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa holl staff y CMHT o bwysigrwydd wneud cofnod cyn gynted â phosib ar ôl y sgwrs/ymgynghoriad perthnasol ac fe ddylai ystyried ei drefniadau ar gyfer recordio sgyrsiau â chleifion ac a oes angen eu hadolygu.

Yn ôl