06/07/2021
Iechyd
Datrys yn gynnar
202101690
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Mrs X am yr oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb pellach iddi yn rhoi sylw i’w phryderon ynghylch gofal a thriniaeth ei diweddar dad, a oedd yn dal heb eu hateb.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig llawn arall i Mrs X (o fewn 4 wythnos) er mwyn ymdrin â’i phryderon, a dylai’r llythyr hwnnw gynnwys esboniad ac ymddiheuriad am yr oedi.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn setliad priodol.