Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dyddiad yr Adroddiad

10/11/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305488

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cwynodd Mrs V fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu darparu ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Ebrill 2023 am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar dad.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i’w chŵyn ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs V. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs V â’r ymddiheuriadau a’r esboniadau angenrheidiol am y diofalwch ynghyd â chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.

Yn ôl