22/12/2021
Iechyd
Datrys yn gynnar
202104866
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu ag esbonio’n iawn sut na chafodd unrhyw ddyletswydd gofal ei dorri yng nghyswllt y gofal a roddwyd i’w diweddar dad.
Awgrymai’r dystiolaeth fod y Bwrdd Iechyd wedi hepgor gwybodaeth wrth ymateb i’r gŵyn o dan Gweithio i Wella, y broses ar gyfer codi pryderon neu gwynion yn GIG Cymru, a bod diffygion eraill o ran y ffordd y deliodd â’r gŵyn ac o ran cyfathrebu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd a gytunodd, o fewn mis, i roi esboniad llawn o’r tordyletswydd ac atebolrwydd dilys, ymddiheuro am fethu â rhoi’r wybodaeth yma’n gynt ac am y methiannau cyfathrebu, a chynnig talu iawndal o £125 i Mrs X. Cytunodd hefyd i adolygu’r ffordd y mae’n delio â chwynion, ar sail y diffygion a nodwyd.