Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

21/11/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306259

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu darparu ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Chwefror 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu ymateb i’r gŵyn na diweddariadau ystyrlon i Mrs B. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi, esbonio’r rhesymau dros yr oedi, cynnig taliad o £100 i Mrs B ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.

Yn ôl