Dewis eich iaith
Cau

Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

14/12/2023

Pwnc

Iechyd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202307091

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cwynodd Miss C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddynt ym mis Ebrill 2023, ac mai dim ond un diweddariad a gafodd ganddynt ers hynny.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd wedi ei gyhoeddi ac nad oedd wedi hysbysu Miss C yn iawn am y sefyllfa ddiweddaraf. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss C. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac egluro’r rhesymau am yr oedi, cynnig talu iawndal o £250 i Miss C a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 8 wythnos.

Yn ôl