10/03/2022
Iechyd
Datrys yn gynnar
202106766
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Ms X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael ag amrywiol bryderon a fynegodd ynghylch asesiad ffurfiol o ddiagnosis dros dro ei mab o awtistiaeth, gan gynnwys materion yn ymwneud â mewnbwn iechyd meddwl cymunedol, gofal ysbyty a threfniadau rhyddhau.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi dod i’r casgliad yn anghywir ei fod wedi datrys pryderon Ms X ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb ysgrifenedig cynhwysfawr. Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn cyfnod o ddim mwy na 55 diwrnod gwaith, i gysylltu â Ms X i ganfod ei phryderon, cadarnhau’r rhain yn ysgrifenedig a chyflwyno ymateb ffurfiol i bob un o’i chwynion. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd i’r gŵyn.