07/04/2022
Iechyd
Datrys yn gynnar
202108047
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Ms X fod oedi sylweddol cyn iddi dderbyn ymateb i’w chŵyn, a wnaed ar 25 Hydref 2021, ac nad oedd wedi cael ymateb o hyd.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd Ms X wedi derbyn ymateb ffurfiol i’w chŵyn a bod camau’r sefydliad wedi achosi anghyfleustra iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ar gais yr Ombwdsmon cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflawni’r camau canlynol:
• Ymddiheuro i Ms X am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn
• Rhoi esboniad i Ms X am yr oedi
• Ymateb i gŵyn i Ms X erbyn 25 Ebrill 2022