05/04/2022
Iechyd
Datrys yn gynnar
202107541
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Ms X am y modd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â’i chŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w mam ar ôl iddi gael ei derbyn i’r ysbyty. Er bod Ms X yn deall y rhesymau dros ganslo dau gyfarfod a drefnwyd i drafod ei phryderon, roedd yn pryderu na fyddai cyfarfod a drefnwyd ym mis Mawrth 2022 yn mynd yn ei flaen. Cwynodd Ms X hefyd ei bod wedi bod yn anodd cael atebion gan y Bwrdd Iechyd ac nad oedd wedi derbyn ymateb i ail lythyr cwyno ym mis Gorffennaf 2021.
I setlo’r gŵyn hon, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd fod y cyfarfod a drefnwyd i fod i gael ei gynnal ar 30 Mawrth 2022 wedi’i gynnal a bod pryderon Ms X fel y nodir yn ei hail lythyr cwyno yn rhan o’r cyfarfod hwnnw. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi ymateb ysgrifenedig i Ms X o fewn pedair wythnos i’r cyfarfod.