21/06/2021
Iechyd
Datrys yn gynnar
202100514
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Ms X am nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ganddi ym mis Medi 2020.
Wrth ystyried cwyn Ms X, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i Ms X.
I setlo cwyn Ms X, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflwyno eglurhad ysgrifenedig ac ymddiheuriad am yr oedi wrth ddelio â’i chŵyn i Ms X ac i ymateb yn llawn i’w chŵyn o fewn 6 wythnos.